Gwasanaethau ym Mhenrallt

Gwasanaethau'r Bore

Mae oedfa'r bore am 10:30yb ar ddydd Sul.

Dydd Sul yma, 20 Medi, y bregeth fydd Bearing fruit and growing (Colosiaid 1:1–14; pregethwr: Y Parch. John Thompson).

Gwasanaethau Hwyrol

Mae ein gwasanaethau hwyrol bellach yn digwydd unwaith y mis, efo cymun, ar ail nos Sul y mis am 6yh. Weithiau cynhelir gwasanaethau ychwanegol; bydd manylion yr rhain yma hefyd.

Nos Sul yma, 20 Medi, bydd dim oedfa hwyrol.

Rhagor o Wybodaeth

Gwelwch y tudalen newyddion misol am fanylion pellach y rhaglen mis yma.

Gwasanaethau yn y Gorffenol

Fel arfer, rydym ni ddim yn recordio'r gwasanaeth hwyrol. Dydy fideos gwasanaethau'r bore ddim ar gael yn gyhoeddus, ond cysylltwch â swyddfa'r eglwys os hoffech chi fynediad i recordiad gwasanaeth gorffennol.

Mae fideos y pregethau ar gael o hyd ar ein sianel YouTube. Cewch hyd i gysylltau i'r fideos yn ein archif pregethau, ynghŷd â recordiadau sain yn ôl at 2008, a nodiadau neu sleidiau ar gyfer rhai o'r pregethau. Sylwch fod rhai bregethau heb eu recordio.

Gwelwch beth rydym ni wedi bod yn canu yn ddiweddar gan edrych ar ein cronfa ddata caneuon:

Codi Mawl

Noson addoli dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, rhedir gan Caersalem (Caernarfon), Goleudy (Llangefni) a Penrallt (Bangor), efo mawl, gweddi, tystiolaeth a diolchgarwch. Croeso i bawb. Bydd Goleudy yn arwain yr un nesa yn Neuadd Dref Llangefni ar nos Sul 15 Tachwedd am 7yh, efo lluniaeth ymlaen llaw o 6:30yh.

Cymdeithas Ar-lein
Oedfa'r bore ym Mhenrallt