Tîm Arweinyddiaeth

Y Gweinidog

Y Gweinidog

Ein gweinidog ydy'r Parch. John Thompson. Mae John yn mwynhau cerdded yn y mynyddoedd, dyddiau allan efo'r teulu a ffrindiau a cerddoriaeth. Hefyd chwaraeon amrywiol a chwarae'r gitar pan mae gynno fo amser. Mae o ar gael i'w gysylltu ar minister@penrallt.org neu 07931 150697.

Mae John yn cael ei gefnogi gan dîm o naw diacon a'n gweinyddwr, Magnus.


Y Diaconiaid

Mae'r diaconiaid i gyd yn aelodau Penrallt, sy'n cael eu hethol gan aelodaeth yr eglwys. Mae gan bob diacon gyfrifoldeb am un rhan o fywyd yr eglwys.

Enw Cyfrifoldeb
Jan Ablett Ysfrifenydd
Cathy Cathy Fooks Trysorydd
Wendy L Wendy Lemon Plant ac Ysgol Sul
Wendy B Wendy Broadbent Efengyliaeth
Lesley Lesley Jackson Gweinyddiaethau am Wragedd
Sarah Sarah Jackson Cenhadaeth
Ama Ama Eyo Gweddi
James James Goodman Addoli ac Oedfeydd Sul

Gallwch chi gysylltu ag unrhyw un o'r diaconiaid trwy swyddfa'r eglwys.


Y Gweinyddwr

Y Gweinyddwr

Daeth Magnus Forrester-Barker i Fangor ym 1999 i wneud PhD mewn mathemateg, syrthiodd mewn cariad a'r ardal ac mae o wedi aros yma ers hynny. Mae o wedi bod yn gweithio fel gweinyddwr Penrallt (a prif awdur y wefan) ers crëwyd y swydd ym mis Medi 2005. Cerddor brwdfrydig ydy o, ac mae o'n chwarae sawl offeryn mewn bandiau lleol (gan gynnwys grŵp cerddoriaeth Penrallt).

Cysylltwch â Magnus swyddfa'r eglwys.


Y Gweithiwr Ieunctid

Y Gweithiwr Ieunctid

Mae Becca Jackman yn wreiddiol o Abertawe a daeth i Fangor i astudio Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg. Datblygodd hi galon am bobl ifanc, yn arbennig y rhai yn ardal Gogledd Cymru; gweithiwr ieuenctid Penrallt ydy hi bellach. Mae hi wrth ei bodd yn yr awyr agored, nofio mewn llynnoedd a darllen llyfrau!

Cyslltwch â Becca ar youth@penrallt.org.